Y DYFODOL

Mae Cwmni Rheilffordd Corris, Cyf., a ffurfiwyd gan y Gymdeithas i redeg y Rheilffordd newydd, yn ceisio ail-agor tua dwy filltir a hanner o'r hen lein, o Gorris i Tanycoed, rhwng Esgairgeiliog a Llwyngwern. Mae gan y Comisiwn Coedwigaeth safle oicnic, a man cychwyn rhodfeydd coedwig yn Nhanycoed, ac hefyd mae'n bosibl cerdded oddi yno i Ganolfan y Dechnoleg Arall, yn chwarel Llwyngwern. Hyd yn hyn, mae rhwystrau biwrocrataidd wedi cyfyngu tyfiant y lein i Maespoeth, ond gobeithir dod dros rhain yn dyfodol agos. Yr unig rwystr daearyddol pwysig ar y rhan yma o'r lein yw'r gwelliannau i'r fford ger Pont y Goedwig, yn is i lawr na Maespoeth, lle mae bellach fwlch yn rhediad y lein. Mae gan y Cwmni gynlluniau i osgoi'r rhwystr yma, ac ar hyn o bryd maent yn disgwyl am ganiatad gan yr awrdurdodau i osod y cledrau at ymyl gogleddol y bwlch, a dechrau adeiladu'r gwyriad. Yn y cyfamser, mae'r Gymdeithas wedi bod yn atgyweirio gorsaf Esgairgeiliog, a ddefnyddir ar hyn o bryd fel lloches bws, ond fe ddaw y ddaw y diwrnod pan y gellir prynu tocynnau yno i ddal y tren i Corris !