|
|
CROESO I'R RHEILFFORD CORRIS ! |
|
Lein fach gul (2' 3") yw Rheilffordd Corris, a'i dechreuad yn dyddio'n ol i bumdegau'r ganrif olaf. Adeiladwyd y lein yn wreiddiol i gludo llechi o chwareli Corris Uchaf ac Aberllefenni i'r safle morgludo agosaf ar yr Afon Ddyfi, i'w llwytho ar longau, a'i cludo i wahanol ardaloedd.
Yn ystod chwedegau'r ganrif olaf, rhoddwyd y gorau i gludo'n uniongyrchol i longau, gan ddaddlwytho 'r llechi ym Machynlleth, a'i llwytho ar y rheilffordd lled safanol. Yn 1878, addaswyd y Rheilffordd er mwyn defnyddio peiriannau stem, ac fe ddechreuwyd cario teithwyr yn 1883. Am weddill y ganrif roedd y Rheilffordd yn dra llwyddianus, gan ddatblygu traffig twristaidd sylweddol.
Daeth dirywaid i'r diwydiant llechi ar ddyfodiad yr ugeinfed ganrif, gyda mwy o gystadleuaeth oddi wrth drafnidiaeth ar y ffyrdd. Collodd Rheilffordd Corris ei hannibyniaeth yn 1930, pan y cymerwyd drosodd gan y Great Western, ac yn fuan wedyn rhoddwyd y gorau i gludo teithwyr. Cariodd y lein ymlaen hyd nes 1948, yn cludo nwyddau yn unig, an yna fe'i caewyd gan y Rheilffyrdd Prydeinig, oedd newydd eu cenedlaetholi.
Codwyd y cledrau'n fuan ar ol cau'r lein ac fe drosglwyddwyd y wageni a'r peiriannau i Rheilffordd Talyllyn gerllaw; maent i'w gweld yno hyd at heddiw.
Sefydlwyd Cymdeithas o bobl frwdfrydig yn 1966, i sicrhau fod Rheilffordd Corris yn fwy na chof yn unig. Eu gwaith cyntaf oedd agor yr Amguedddfa, lle'r ydych yn sefyll, wedi ei leoli'n briodol o fewn aciladau Gorsaf Corris.
Yr ail dasg bwysig oedd gwneud ymchwiliad i hanes y Rheilffordd a'r ardal, gyda'r bwriad tymor - hir o gyhoeddi hanes manwl. Cyhoeddwyd hanes bras, yn cynnwys llawer o wybodaeth newydd, in 1988 gyda'r teitl "A Return to Corris - the continuing story of the Corris Railway".
Y gwaith pwysicaf i'w ymgymeryd gan y Gymdeithas yw'r ymdrech i ail-agor rhan o'r lein wreiddiol i gludo teithwyr. Er gwaethaf anhawsterau sylweddol biwrocratig, mae'r lein o Corris at sied y peiriannau yn Maespoeth hellach wedi ei ail-osod, ac mae safon y lein yn cael ei addasu i fod yn ddigonol i dderbyn trenau teithwyr.
Mae'r mwyafrif o'r gwaith yn cael ei ymgymeryd gan wirfoddolwyr; gan fod y rhan fwyaf o aelodau'r Gymdeithas a gwaith flawn amser, dim ond cyfran o'i hamser sydd ar gael i'r lein. Os y teimlwch y gellir gwella pethau, ac os ydych yn awyddus i helpu -
YMUNWCH A'R GYMDEITHAS, A CHYNIGIWCH EICH GWASANAETH,
- ni wrthodir unrhyw gynnig rhesymol !!