|
|
|
Tra rhedodd y tren gyntaf ar gledrau ysgafn, mae'r Gymdeithas wedi meddiannu stoc o gledrau trymach oddi wrthCamlas Llongau Maneinion, ac mae rhain yn cael eu gosod rhwng Corris a Maespoeth i godi'r safon i fod yn addas i gludo teithwyr. Hyd yn hyn, Peiriant Rhif 5 sydd wedi tynnu'r trennau qwaith dros y rhan o'r Rheilffordd sydd wedi ei adfer, gyda chymorth egni dynol pan fo angen! (Un fantais sydd i lein fach gul, a chymharu a lein lled safanol, yw'r gallu i symud wageni gyda nerth dynol !) Mae peiriant Rhif 6, sy'n drymach ac yn gryfach, ar hyn o bryd yn cael ei atgyweirio yn Maespoeth, ac fe'i defnyddir pan fo'r gwaith o osod y cledrau trymach wedi ei gwblhau. Yn ychwanegol i amrywiaeth o wageni, mae gan y Gymdeithas Fan Brev, cerbyd bychan a chorff metel (ar fenthyciad gan Ganolfan y Dechnoleg Arall, yn chwarel Llwyngwern) a ffram dau gerbyd ddefnydiwyd i gario dynion yn y pyllau glo, ac a fu'n eiddo'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae'r cerbydau yma ar hyn o bryd yn cael eu atgyweirio er mwyn eu defnyddio ar drennau teithwyr. Mae corff newydd yn cael ei adeiladu ar ffram un o'r cerbydau Bwrdd Glo, yn seiliedig ar gynllun gwreiddiol cerbydau Corris, trwy haelioni un o aelodau'r Gymdeithas.