|
|
|
Yn ystod mis Rhagfyr, 1966, fe ffurfiwyd Cymdeithas Corris o fysg aelodau o Gymdeithas Cadwraeth Rheilffordd Talyllyn, o Ganolbarth Dwyreiniol Lloegr, i gadw beth oedd yn weddill o'r lein, ymchwilio i'w hanes, agor Amgueddfa i arddangos creiriau a lluniau, ac hefyd i edrych i mewn i'r posibilrwydd o ail-agor rhan o'r cwrs gwreiddiol. Daeth ffrwyth eu llafur i'r amlwg am y tro cyntaf pan agorwyd y rhan gyntaf o Amgueddfa Rheilffordd Corris yn 1970. Dechreuwydgosod y cledrau ar ffin ddeheuol iard yr orsaf, ger yr Amgueddfa, yn 1971, ond ni estynodd ond ychydig gan-llath yn wreiddiol, oherwydd rhwystrau biwrocrataidd. Rhoddodd y Comisiwn Coedwigaeth y sied a'r iard yn Maespoeth yn ol i'r Rheilffordd yn 1981, ac mae'r Gymdeithas wedi ei droi yn ol yn sied beirannau. Cafwyd caniatad ail-osod y cledrau i gysylltu Corris a Maespoeth yn 1984, ac yn 1985 fe ddathlwyd yr achlysur gan Gymdeithas trwy redeg y tren gyntaf i Gorris ers tri deg saith o flynyddoedd.